
Mae’r NBA yn dod i Gymru!
Mae gan Pêl-fasged Cymru fenter gyffrous a newydd ar gyfer ysgolion a grwpiau blwyddyn 7 ac 8. Byddwn yn cyflwyno Cynghreiriau “Jr. NBA” yn 2022 ac rydym am i ysgolion o bob rhan o Gymru gymryd rhan. Rydym am o leiaf un ysgol o bob un o’r 22 awdurdod lleol gymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth ym mis Mawrth 2022.


Bydd y pedwar tîm gorau o bob cystadleuaeth cyngrair yn gymwys ar gyfer Diwrnod y Rowndiau Terfynol a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 15 Mehefin 2022.
Bydd pob ysgol yn cael cit i gynrychioli un o dimau’r NBA a bydd y dewis / drafft yn digwydd ar gyfer pob ysgol sy’n cymryd rhan yn y Neuadd Fawr ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 23 Tachwedd 2021.


REGISTER YOUR INTEREST
Dyma’ch cyfle i fynegi eich diddordeb mewn ymuno â’r Jr. NBA yng Nghymru. Llenwch y ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad erbyn 13/09/2021 i roi gwybod ichi a ydych wedi llwyddo i fod yn un o’r timau 30/32 sy’n rhan o raglen gyntaf Jr. NBA Cymru.
(Ym mlwyddyn gyntaf rhaglen Jr. NBA mae gennym nifer cyfyngedig o leoedd. Fodd bynnag, wrth inni symud ymlaen yn y blynyddoedd i ddod, rydym yn rhagweld y bydd y fenter yn tyfu gan ganiatáu inni gael mwy o dimau a mwy o gynghreiriau ledled Cymru).
Am wybodaeth bellach neu i ofyn unrhyw gwestiwn, cysylltwch â Jon Bunyan jonbunyan@basketball.wales.

© 2021 Jr NBA. All Rights Reserved.