
Mae angen gwirfoddolwyr arnom
Hoffech chi fod yn rhan o raglen gyffrous a hir ddisgwyliedig Pel-fasged Cymru – y Jr. NBA? Ydych chi yn frwdfrydig, llawn cymhelliant ac yn caru pêl fasged? Neu am fod yn rhan o’r fenter newydd?
Beth am ymuno a bod yn rhan o’n grŵp Gwirfoddolwyr Pêl-fasged Cymru fydd yn helpu i gyflwyno y rhaglen yng Nghymru.
Bydd lansiad y rhaglen yn digwydd yn y ystod y Drafft Jr NBA a gynhelir yn y Neuadd Fawr ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Tachwedd 2021, gyda dwy gystadleuaeth yn cael eu cynnal ym Mhrifysgol Bangor (Cynhadledd y Gogledd) ac ym Mhrifysgol Met Caerdydd (Cynhadledd y De) yn mis Mawrth 2022. Bydd Diwrnod y Ffeinal ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Mehefin 2022.
Rydym yn awyddus i roi cyfleoedd i bobl ifanc chwarae rhan bwysig yn y rhaglen mewn sawl ffordd gwahanol ac mae gennym nifer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael.
COFRESTRWCH EICH DIDDORDEB
Dim ond nifer cyfyngedig o gyfleoedd i wirfoddoli sydd gennym a byddwn yn dethol y gwirfoddolwyr o’r rhai sydd wedi gwneud cais i gymryd rhan. Bydd angen llenwi y ffurflen Mynegi Diddordeb isod a bydd Pêl-fasged Cymru yn cysylltu â chi maes o law.

© 2021 Jr NBA. All Rights Reserved.