
Ymunwch â Phêl Fasged Cymru
Fel y corff llywodraethu ar gyfer Pêl-fasged yng Nghymru, nod ein haelodaeth yw dod â phawb sy'n frwd dros y gêm at ei gilydd. Trwy'r dudalen hon gallwch ymuno fel clwb newydd neu ymuno fel aelod unigol i Chwarae, Hyfforddi, Gweinyddu (neu gyfuniad o'r cyfan)
Mae ein gwaith yn amrywio o redeg cynghreiriau a chystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol, cefnogi ein clybiau cysylltiedig ledled y wlad, rhedeg timau cenedlaethol a chynyddu cyfleoedd i chwarae.
Mae buddion bod yn aelod yn cynnwys mynediad at drwyddedau i chwarae, hyfforddi neu weinyddu a'r yswiriant cysylltiedig, mynediad â blaenoriaeth a gostyngiadau i gyrsiau hyfforddi a dyfarnu, gostyngiadau a buddion ar offer pêl-fasged gyda’n partneriaid, offer hyfforddi a dillad trwy ein noddwyr dillad, blaenoriaeth archebu a gostyngiadau ar docynnau digwyddiadau a llawer mwy.
Os y'ch chi eisiau mwy o wybodaeth ar aeloadaeth unigolyn neu glwb yna danfonwch ebost at: selaw.llabteksab@seiriuqne

Am ymaelodi heddiw?
Drwy ymuno â Phêl-fasged Cymru neu adnewyddu eich aelodaeth, byddwch yn helpu i gefnogi pêl-fasged yng Nghymru ac yn caniatáu inni barhau i wneud ein gwaith pwysig o dyfu’r gêm. Ein huchelgais yw i bêl-fasged gael ei chydnabod yn eang fel y gamp fwyaf cymdeithasol, cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru. Mae ein system aelodaeth yn ein galluogi i gyfathrebu'n fwy effeithlon gyda'n haelodau a chasglu gwell data ar ein cymuned pêl-fasged. Bydd gennych hefyd hawl i ystod eang o fuddion aelodaeth!
Mewngofnodi
Eisoes yn Aelod o Pêl-fasged Cymru?
Mewngofnodwch i'ch cyfrif Sport:80 yma i ddiweddaru eich gwybodaeth bersonol, ychwanegu cymwysterau newydd e.e. Diogelu, DBS neu i archebu lle ar unrhyw un o’n cyrsiau a digwyddiadau

Cofrestrwch eich clwb heddiw
Mae Pêl-fasged Cymru yn barod i gefnogi ac arwain ei glybiau. Ry'n ni ond mewn sefyllfa i helpu'r clybiau hynny sy'n gysylltiedig â Phêl-fasged Cymru.
I adnewyddu neu gysylltu eich clwb â Phêl-fasged Cymru defnyddiwch y ddolen isod. Mae Pêl-fasged Cymru yn cadw'r hawl i wrthod ymaelodi ag unrhyw glwb. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ymaelodi â chlwb, e-bostiwch: selaw.llabteksab@seiriuqne

















