Cymerwch ran

Wales U18 Women

Cymerwch ran

Powered by Sport 80

Fuodd na erioed amser gwell i gymeryd rhan mewn Pêl-fasged yng Nghymru. I ni, mae Pêl-fasged yn fwy na gêm – mae’n gymuned - ac ry'n ni'n dod â’r gymuned honno ynghyd ag amrywiaeth o weithgareddau cyffrous trwy gydol y flwyddyn. P’un a ydych chi’n chwaraewr sy’n edrych i gystadlu, yn hyfforddwr sydd eisiau datblygu sgiliau newydd, neu’n gefnogwr sy’n awyddus i gefnogi talentau lleol, mae gennym ni rywbeth at ddant pawb!

Become An Official

Dod yn Swyddog

Dechreuwch ar eich taith trwy ddod yn swyddog bwrdd, dyfarnwr neu ystadegydd. Dysgwch gan ein tiwtoriaid profiadol a datblygu eich gwybodaeth am y gêm. Mae gweinyddu yn ffordd wych o gymryd rhan.


U13 Hub Final Web

U13 Development Hubs (BOYS) U15 Camps (GIRLS)

Mae’r Hybiau Rhanbarthol dan 13 ar gael i fechgyn a merched ym mlynyddoedd ysgol 6, 7, ac 8. Anogir chwaraewyr i fynychu’r hyb sydd agosaf at eu cartrefi. Bydd y canolfannau hyn yn helpu pwyllgor perfformiad Pêl-fasged Cymru i weld pa chwaraewyr sydd â photensial ar gyfer Treialon Sgwad Tîm Cenedlaethol yn y dyfodol.


Schools Logo Web

Cystadleuaeth Ysgolion Pêl-fasged Cymru

Mae Pêl-fasged Cymru yn trefnu cystadleuaeth flynyddol i ysgolion uwchradd a chynradd. Gall pob ysgol o bob rhan o Gymru wneud cais i gymryd rhan.


Volunteer

Dod yn wirfoddolwr

Mae gan Bêl-fasged Cymru nifer o gyfleoedd i chi wirfoddoli gyda ni. Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol bob blwyddyn, yn ogystal â chystadlaethau a gwyliau lleol, rhanbarthol a chlybiau ac ysgolion, ac mae pob un ohonynt angen gwirfoddolwyr i chwarae rhan a chymryd rhan.


Jr Nba 2

Jr.NBA Cymru

Jr.NBA Cymru yw ein cystadleuaeth ysgolion gyffrous sydd â’r nod o annog ysgolion newydd o bob rhan o Gymru i brofi hudoliaeth yr NBA.


Smaller Ballers Final

Pêl-fasged Fach

Mae Pêl-fasged Fach yn rhaglen Pêl-fasged Cymru sydd â'r nod o gael mwy o chwaraewyr dan 12 i gymryd rhan yn y gamp.


Sponsors

Dod yn noddwr neu bartner

Mae Pêl-fasged Cymru yn chwilio’n barhaus am noddwyr a phartneriaid newydd i helpu i sbarduno twf y gamp yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni ar y daith hon, cliciwch ar y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am ein holl gyfleoedd masnachol.


Vick park swansea 1

Mega Slam Hoops Fund

Diolch i gyllid Cyfalaf Chwaraeon Cymru, mae Pêl-fasged Cymru yn dosbarthu hyd at 40 o fygyrn pêl-fasged awyr agored Mega Slam ledled Cymru. Y nod yw cynyddu mynediad at bêl-fasged awyr agored o ansawdd uchel a chefnogi mwy o bobl i fod yn egnïol.


Whatsapp image 2025 11 10 at 11.38.15

Participation and inclusion

 Participation and inclusion is about grassroots-level basketball, opportunities, and providing an introduction to the sport of basketball.


Become A Coach

Dod yn hyfforddwr

Dechreuwch eich taith hyfforddi trwy ddod yn hyfforddwr cymwysedig Pêl-fasged Cymru. Darganfyddwch y gofynion, y sgiliau a'r hyn sydd ei angen arnoch i ddod yn rhan o'r gymuned hyfforddi yng Nghymru.


Summer 2024 3x3 Swansea 235 Large 2 Opt

Dewch o hyd i'ch clwb agosaf

Ydech chi'n edrych am glwb cyfagos? Defnyddiwch ein lleolwr clwb hediw i ddarganfod clwb yn eich ardal.

Chwiliwch yn ol lleoliad neu Edrychwch ar y Map Clybiau

Cyrsiau a digwyddiadau diweddaraf

Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gyrsiau, gemau a digwyddiadau diweddaraf sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Edrychwch ar y rhestr o ddigwyddiadau sydd i ddod isod.

Edrychwch ar y digwyddiadau diweddaraf