Diogelu

Jr Nba Girls Aberystwyth University 08/06/23

Diogelu

Statutory Service Contact Information

Mae Pêl-fasged Cymru yn parhau i weithio gyda Chwaraeon Cymru ac Uned Amddiffyn Plant mewn Chwaraeon yr NSPCC i adolygu a gwella ein polisïau a gweithdrefnau diogelu.

Mae Pêl-fasged Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg sy’n ymwneud â’n gweithgareddau a’n digwyddiadau.

Ry'n ni'n cydnabod ein cyfrifoldeb i ddiogelu lles pob plentyn, person ifanc ac oedolyn mewn perygl sydd wedi’u hymddiried i’n gofal ac rydym wedi ymrwymo i weithio i ddarparu amgylchedd diogel.

Mae gan bawb yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag esgeulustod, cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, cam-drin rhywiol ac unrhyw fath arall o gam-drin. Mae diogelu yn fusnes i bawb, ac mae gan bob un o’n clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr gyfrifoldeb am ddiogelu ac adrodd am bryderon.

Mae staff hyfforddi, swyddogion a gwirfoddolwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant neu oedolion sy'n wynebu risg mewn gweithgareddau a reoleiddir fel gemau a hyfforddiant, wedi cael gwiriadau DBS manylach (enhanced), cymwysterau priodol, cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu. Bydd holl aelodau ein Bwrdd yn cael sesiwn i'w haddysgu ynglyn a diogelu, ynghyd a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus yn y maes hwn.

Ry'n ni am atgoffa clybiau y gall Pêl-fasged Cymru gynnal gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu ar gyfer hyfforddwyr a gwirfoddolwyr am bris gostyngol, diolch i’n partneriaeth â Chymdeithas Chwaraeon Cymru a 'Cenedl Fywiog'.

Gellir cynnal gwiriadau DBS trwy e-bostio selaw.llabteksabobfsctd-8b4c64@gnidraugefas

Ry'n ni'n gweithio'n agos gyda'n holl glybiau i sicrhau bod diogelu plant ac oedolion mewn perygl yn cael blaenoriaeth. Mae unrhyw honiad, amheuaeth o niwed neu bryder yn cael ei gymryd o ddifrif ac ymatebir iddo yn gyflym, yn deg ac yn briodol.

Os ydych chi'n poeni ac os oes gennych chi unrhyw bryderon diogelu, anfonwch e-bost at selaw.llabteksabobfsctd-115125@gnidraugefas bydd eich pryderon yn cael eu trin yn gyfrinachol ac yn sensitif..

Os ydych yn poeni am ddiogelwch neu les uniongyrchol plentyn neu oedolyn mewn perygl, gallwch hefyd gysylltu â:

  • Yr heddlu ar 999
  • Childline yr NSPCC ar 0800 1111
  • Local Social Services : Click here

Mae mwy o fanylion am ddiogelu mewn chwaraeon ar gael fan hyn: