
Oherwydd bod pawb yn haeddu cyfle…
Ar ôl cyfnod o ymchwil ac ymgynghori, mae bwrdd Pêl-fasged Cymru wedi datblygu cynllun strategol newydd cyffrous ac uchelgeisiol i helpu i siapio a thyfu’r gamp o bêl-fasged yng Nghymru.
Mae'r cynllun strategol hwn yn darparu cyfeiriad, ffocws ac yn gweithredu fel hysbyseb i'r holl randdeiliaid i helpu i lunio dyfodol gwell i bêl-fasged ac i gefnogi'r miloedd o bobl sy'n chwarae'r gem.
Mae'r ddogfen strategaeth hon yn amlinellu'r amcanion, y mentrau a'r llwybrau ar gyfer y chwe blynedd nesaf (2024-2030) i godi proffil y gamp, meithrin talent, a chryfhau'r gymuned bêl-fasged ledled y wlad. Drwy rannu un gweledigaeth glir a thrwy gydweithio, mae pêl-fasged yng Nghymru mewn sefyllfa dda i wireddu ei photensial llawn ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Mae'r strategaeth yn cael ei chyflwyno mewn tri fformat: y ddogfen strategaeth lawn, fideo strategaeth byr, ac un dudalen strategaeth sy'n tynnu sylw at ein gwerthoedd, cenhadaeth, gweledigaeth, a'r prif bileri strategol. Cliciwch ar y dolenni isod i ddarganfod mwy!
Download the new 2024-2030 Strategy


















