Cronfa Gymorth i athletwyr

3x3 Pic

Cronfa Gymorth i athletwyr

Pa gymorth sydd ar gael i gefnogi chwaraewyr pêl-fasged yng Nghymru?

Mae Pêl-fasged Cymru eisiau gwneud y gêm mor gynhwysol â phosibl a sicrhau bod pêl-fasged yn agored i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi bod goblygiadau ariannol i gymryd rhan yn y gamp. Mae Pêl-fasged Cymru wedi derbyn cyllid drwy Chwaraeon Cymru a’r Loteri Genedlaethol i gefnogi chwaraewyr pêl-fasged a’u teuluoedd a allai fod yn teimlo bod y gost yn rhwystr i gymryd rhan. Mae'r cyllid hwn ar gael i chwaraewyr pêl-fasged a allai fod dan anfantais o gymharu â'u cyfoedion. Mae'r cyllid hefyd ar gael i
chwaraewyr sy'n rhan o'r Tîm Cenedlaethol. Mae cyllid ar gael i’r rhai sy’n profi caledi ariannol na fyddent, heb fynediad at y cyllid, yn gallu cymryd rhan yn y gamp ar lefel gymunedol a chenedlaethol.

Meini Prawf

I fod yn gymwys, mae'n rhaid i'r chwaraewr pêl-fasged fodloni un o'r meini prawf hyn a gallu darparu tystiolaeth eich bod yn derbyn:

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Cefnogaeth Incwm
  • Budd-dal tai
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau treth plant
  • Credydau Treth Gwaith
  • Pension Savings Credit (PCSC)
  • Caledi ariannol unigol neu deuluol – aelwyd yn derbyn llai na’r safon isafswm incwm (2023) o £50,000 fesul cwpl neu £29,500 fesul teulu un rhiant
  • Byw mewn gofal
  • Yn derbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) neu Gronfa
    Ariannol wrth Gefn (FCF)
  • Yn derbyn lwfans gofalwr
  • Mae unigolion ar JSA/Pensiwn neu unrhyw fudd-daliadau eraill hefyd yn gallu gwneud cais os ydynt yn bodloni'r safonau isafswm incwm

Lawrlwythwch y ddogfen llawn

Os y'ch chi angen mwy o wybodaeth ynglyn a'r Gronfa Cymorth i Athletwyr ebostiwch: selaw.llabteksabobfsctd-45cef4@ide

Four Nations Baskeball Tournamnet 12/04/23