Gwirio Meddyginiaeth a Chyflenwadau Maethol

Four Nations Baskeball Tournamnet 12/04/23

Gwirio Meddyginiaeth a Chyflenwadau Maethol

global dro

Cyn cymryd unrhyw feddyginiaeth (boed gan feddyg neu wedi’i phrynu dros y cownter), mae’n rhaid i athletwyr wirio i sicrhau nad yw’n cynnwys unrhyw sylweddau gwaharddedig. Gellir gwirio meddyginiaethau (cynhwysion neu enw’r brand) ar-lein yn Global DRO.

Mae Global DRO yn darparu gwybodaeth i athletwyr a phersonél cymorth am statws gwrth-feddyginiaethu meddyginiaethau a chynhwysion penodol yn seiliedig ar y Rhestr Waharddedig WADAGall ymwelwyr chwilio Global DRO am feddyginiaethau a werthir yn Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, y Swistir, y Deyrnas Unedig, a’r Unol Daleithiau. Mae Global DRO yn darparu rhif cyfeirnod unigryw i'r defnyddiwr ar gyfer pob chwiliad.

Mae’n bwysig nodi y gall meddyginiaethau a brynir mewn un wlad gynnwys cynhwysion gwahanol i’r un feddyginiaeth brand a brynir mewn gwlad arall. Edrychwch ar y fideo gan aelod o Gomisiwn Athletwyr UKAD a Phŵer Godwr Paralympaidd Prydain, Ali Jawad, ar ddefnyddio Global DRO.

Gwirio Meddyginiaethau Ar-lein

Rhagor o Wybodaeth

Cymryd Atchwanegiadau Maethol

Mae UKAD bob amser yn argymell dull bwyd-gynntaf at faeth, gan nad oes unrhyw sicrwydd bod unrhyw gynnyrch atchwanegiad yn rhydd o sylweddau gwaharddedig.

Gall athletwyr gefnogi eu hyfforddiant a’u cynnydd tuag at eu targedau drwy fwyta a mwynhau bwyd maethlon. Gyda ychydig o gynllunio, mae’n bosibl bwyta deiet blasus ac iach sy’n cynnwys amrywiaeth o fathau o fwyd ar yr amser cywir ac yn y meintiau cywir.

Dylai athletwyr asesu’r angen, y risgiau a’r canlyniadau cyn penderfynu cymryd atchwanegiad, ac os oes angen iddynt ddefnyddio un, ewch i’r gwefan Informed Sport i wirio a yw atchwanegiadau wedi cael eu profi fesul swp.

Mae gan UKAD Hwb Atchwanegiadau ar gael sy’n cynnig cyngor ar reoli risgiau atchwanegiadau, opsiynau Maeth Bwyd-Gynntaf a llawer mwy.

Gwirio Atchwanegiadau

Hwb Atchwanegiadau UKAD