
Ynglŷn â Phêl-fasged Cymru
Basketball in Wales is growing
Mae Pêl-fasged Cymru yn gyfrifol am lywodraethu a datblygu un o gampau mwyaf poblogaidd Cymru.
Mae ein gweithgareddau fel cymdeithas yn cael ei yrru gan gymuned angerddol ac ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi ymrwymo i feithrin talent a thyfu'r gem ar lawr gwlad yng Nghymru.
Ar hyn o bryd mae Pêl-fasged Cymru yn darparu ystod eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau bob blwyddyn, diolch i waith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr ledled Cymru. Mae llwyddiannau diweddar wedi cynnwys datblygiad cystadleuaeth Jr.NBA Cymru, ehangu ein twrnameintiau ysgolion cenedlaethol a thwf parhaus ein twrnameintiau haf 3×3.
Ry'n ni wedi cyflwyno ac ehangu Cynghrair Cenedlaethol Pêl-fasged Cymru ac wedi datblygu ein rhaglen tîm cenedlaethol, gan gynnwys ailgyflwyno ein tîm merched hŷn a sefydlu strwythur academi iau newydd.

Diogelu
Rydym wedi datblygu llyfrgell gynhwysfawr o bolisïau diogelu ar gyfer clybiau, hyfforddwyr, chwaraewyr a rhieni. Dysgwch fwy am ein hymrwymiad i wneud Pêl-fasged yn ddiogel yng Nghymru.

Bwrdd y Cyfarwyddwyr & Staff
Cwrddwch â'r bwrdd cyfarwyddwyr â'r staff. Gallwch weld pa feysydd o'r gamp y maent yn gyfrifol amdanynt a sut i gysylltu â nhw'n uniongyrchol.

Strategaeth Pêl Fasged Cymru
Mae ein strategaeth newydd gyffrous yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer twf a datblygiad y gamp yng Nghymru. Darllenwch fwy am ein strategaeth yma.

Cronfa Gymorth i athletwyr
Diolch i gyllid gan Chwaraeon Cymru, lansiwyd ein Cronfa Cymorth i Athletwyr i gefnogi chwaraewyr yn ariannol. Darganfyddwch sut i wneud cais yma.

Pwyllgorau ag Is-bwyllgorau
Mae gennym sawl pwyllgor bwrdd ac is-grŵp sy’n gyfrifol am ddatblygu agweddau ar y gamp yng Nghymru. Dysgwch fwy am y rhain a sut i ymuno!

Polisiau a dogfennau
Mae’r adran hon yn cynnwys ein dogfennau polisi a’n gweithdrefnau diweddaraf , gan gynnwys y Cod Ymddygiad, Chwythu’r Chwiban, Cwynion, a Thempledi Clwb.

UKAD - Chwaraeon Glan
Mae gan bob athletwr yr hawl i gystadlu mewn chwaraeon gan wybod eu bod nhw, a'u cystadleuwyr, yn lân. Rydym yn gweithio gyda UK Anti-Doping (UKAD) i sicrhau bod ein camp yn cael ei ddiogelu.















